2015 Rhif 1802 (Cy.257)

plant a phobl ifanc, cymru

Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”), sy’n gwneud darpariaeth o dan adran 98 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 at ddibenion cynorthwyo personau a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 i gael gwybodaeth am eu mabwysiadu ac i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a’u perthnasau geni.

Mae rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau 2005, sy’n nodi’r gwasanaethau y caiff asiantaeth gyfryngol eu darparu a’r ceisiadau y caiff asiantaethau o’r fath eu derbyn, wedi eu diwygio i ddarparu y caiff asiantaethau cyfryngol dderbyn ceisiadau gan berson sydd â pherthynas ragnodedig (yn unol â’r diffiniad yn y rheoliad 2A newydd) â pherson mabwysiedig am gynhorthwy wrth gysylltu â pherthynas i berson mabwysiedig ac i’r gwrthwyneb (rheoliadau 3 a 4).

Mae rheoliad 5A wedi ei fewnosod yn Rheoliadau 2005 i ragnodi’r amgylchiadau pan fo’n rhaid i asiantaeth gyfryngol beidio â bwrw ymlaen â chais ac i nodi’r amgylchiadau y bydd feto a gofrestrwyd o dan reoliad 8 o Reoliadau 2005 yn gymwys odanynt (rheoliad 7).

Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2005 wedi ei ddiwygio i ddarparu bod feto person mabwysiedig yn gymwys hefyd pan fo gwrthrych cais yn berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig (rheoliad 8).

Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2005 wedi ei ddiwygio fel nad yw Rheoliadau 2005 yn atal asiantaeth gyfryngol rhag datgelu gwybodaeth nad yw’n wybodaeth adnabod i geisydd os yw’r asiantaeth o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny (rheoliad 9).

Mae rheoliad 10 o Reoliadau 2005 wedi ei ddiwygio i’w gwneud yn ofynnol i asiantaeth gyfryngol ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am y cwnsela sydd ar gael i berson mabwysiedig sydd wrthi’n ystyried a ddylai roi cydsyniad i gais fynd yn ei flaen (rheoliad 10).

Mae rheoliad 11 o Reoliadau 2005 wedi ei ddiwygio i’w gwneud yn ofynnol i asiantaeth gyfryngol gymryd camau rhesymol i gadarnhau bod gan y ceisydd berthynas ragnodedig wrth iddi gael cais oddi wrth berson o’r fath (rheoliad 11).

Mae rheoliad 12 o Reoliadau 2005 wedi ei ddiwygio i’w gwneud yn ofynnol i’r asiantaeth gyfryngol gael gwybod gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol a yw’r person mabwysiedig wedi mynegi ei farn ar unrhyw adeg ynglŷn â chyswllt ac i’w gwneud yn ofynnol i’r asiantaeth gyfryngol ofyn am wybodaeth arall gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol. Mae wedi ei ddiwygio hefyd i’w gwneud yn ofynnol i asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru gymryd camau rhesymol i ddarparu gwybodaeth berthnasol i asiantaethau cyfryngol yn Lloegr (rheoliad 12).

Mae rheoliad 13 o Reoliadau 2005 wedi ei ddiwygio i alluogi’r asiantaeth gyfryngol i wneud cais am unrhyw faint o’r wybodaeth neu am y cyfan o’r wybodaeth a restrwyd yn y rheoliad hwnnw yr un pryd. Mae hefyd yn galluogi’r asiantaeth gyfryngol, os yw’n bwrw ymlaen â chais oddi wrth berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig, i wneud cais am wybodaeth o’r gofrestr genedigaethau byw (rheoliad 13). 

Mae rheoliad 16 o Reoliadau 2005 wedi ei ddiwygio i alluogi asiantaeth gyfryngol i ddatgelu gwybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth sy’n adnabod unrhyw berson) sy’n angenrheidiol i’r person mabwysiedig i’w alluogi i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio i gais fynd yn ei flaen (rheoliad 15).

Mae rheoliad 18 o Reoliadau 2005 wedi ei ddiwygio o ran y ffioedd sy’n daladwy gan asiantaeth gyfryngol sy’n gwneud cais am wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Cyn hyn, roedd ffi o £10 yn daladwy o ran gwybodaeth a ddarperid. Mae ffi newydd o £36 yn daladwy am brosesu cais cychwynnol am wybodaeth o dan reoliad 13 neu 14 o Reoliadau 2005, sy’n daladwy p’un a gaiff unrhyw wybodaeth ei chanfod a’i darparu ai peidio, ac ni waeth faint o wybodaeth a ddarperir. Mae ffi ychwanegol o £14 yn daladwy o ran pob cais dilynol am wybodaeth, ond dim ond os bydd gwybodaeth yn cael ei darparu (rheoliad 16).

 

Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, gan mai ychydig iawn o effaith a gaiff ar fusnesau, mudiadau’r gymdeithas ddinesig a’r sector cyhoeddus.


2015 Rhif 1802 (Cy. 257)

plant a phobl ifanc, cymru

Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed                                 16 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       20 Hydref 2015

Yn dod i rym                     10 Tachwedd 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(6), 9(1), 98(1), (1A), (2) a (3) a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002([1])([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gyda chymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn ofynnol gan adran 98(6) o’r Ddeddf honno([3]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2015.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Tachwedd 2015.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005

2. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005([4]) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 16.

3. Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)     yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

“ystyr “darpariaeth Seisnig gyfatebol” (“corresponding English provision”) o ran Rhan neu reoliad yn y Rheoliadau hyn, yw darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9 o Ddeddf 2002 sy’n cyfateb i’r Rhan honno neu’r rheoliad hwnnw;”;

“ystyr “person mabwysiedig” (“adopted person”) yw person a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 ac sydd wedi cyrraedd 18 oed;”;

“mae i “perthynas ragnodedig” (“prescribed relationship”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2A;”;

(b)     yn lle’r diffiniad o “y ceisydd” (“the applicant”) rhodder—

“ystyr “y ceisydd” (“the applicant”) yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 5 ac sydd—

(a) yn berson mabwysiedig;

(b) yn berson sydd â pherthynas ragnodedig; neu

(c) yn berthynas i berson mabwysiedig;”.

4. Ar ôl rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder—

Perthynas ragnodedig

2A. At ddibenion adran 98(1A) o Ddeddf 2002, mae perthynas ragnodedig yn berthynas lle mae person (nad yw’n berthynas i’r person mabwysiedig o fewn ystyr “perthynas” yn rheoliad 2) yn perthyn i berson mabwysiedig—

(a)     drwy waed, priodas neu bartneriaeth sifil; neu

(b)     yn rhinwedd mabwysiad y person mabwysiedig.”

5. Yn rheoliad 4 (ystyr “gwasanaeth cyfryngol” ac “asiantaeth gyfryngol”) yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae gwasanaeth cyfryngol yn wasanaeth a ddarperir at ddibenion—

(a)     cynorthwyo personau mabwysiedig i gael gwybodaeth mewn perthynas â’u mabwysiad;

(b)     hwyluso cyswllt rhwng personau mabwysiedig a’u perthnasau; ac

(c)     hwyluso cyswllt rhwng personau sydd â pherthynas ragnodedig â pherson mabwysiedig a pherthnasau i’r person mabwysiedig.”

6. Yn rheoliad 5—

(a)     yn y pennawd yn lle “Blaenoriaeth i fabwysiadau cyn 1976” rhodder “Ceisiadau y caniateir eu derbyn”;

(b)     yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff asiantaeth gyfryngol dderbyn cais—

(a) oddi wrth berson mabwysiedig am gynhorthwy i gael gwybodaeth am fabwysiad y person hwnnw ac i gysylltu â pherthynas i’r person hwnnw;

(b) oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu—

(i) â’r person mabwysiedig; neu

(ii) â pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig; neu

(c) oddi wrth berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherthynas i berson mabwysiedig.”;

(c)     hepgorer paragraff (2);

(d)     ym mharagraff (3) ar ôl “paragraff (1)” hepgorer “a (2)”.

7. Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—

“Cyfyngiadau ar fwrw ymlaen â chais

5A.(1)(1) Pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais os oes feto’n gymwys o dan reoliad 8(1), ac eithrio o dan amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(1)(b)(ii).

(2) Pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais—

(a)     os oes feto’n gymwys o dan reoliad 8(1), ac eithrio o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(1)(b)(ii); neu

(b)     os nad yw’r person mabwysiedig yn cydsynio i’r cais fynd yn ei flaen.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berson sydd â pherthynas ragnodedig â pherson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherthynas i’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais os nad yw’r person mabwysiedig yn cydsynio i’r cais fynd yn ei flaen.

(4) Caiff asiantaeth gyfryngol fwrw ymlaen â chais o dan baragraff (3)—

(a)     os yw’r asiantaeth gyfryngol wedi cymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i’r person mabwysiedig ond ei bod wedi methu gwneud hynny; neu

(b)     pan fo—

                           (i)    y ceisydd naill ai yn briod, plentyn, ŵyr, wyres, gorwyr neu orwyres i’r person mabwysiedig; a

                         (ii)    y ceisydd yn ceisio cysylltu â’r perthynas i’r person mabwysiedig dim ond i gael gwybodaeth am hanes meddygol perthnasau’r person mabwysiedig.

(5) Pan fo paragraff (4)(b) yn gymwys, rhaid i’r asiantaeth gyfryngol beidio â datgelu unrhyw wybodaeth a fyddai, o’i chymryd ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall sydd ym meddiant y person y’i datgelir iddo, yn galluogi’r person mabwysiedig, unrhyw berthynas i’r person mabwysiedig neu unrhyw berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig i gael ei adnabod neu ei olrhain.

(6) Nid yw unrhyw ofyniad o dan y rheoliad hwn i’r person mabwysiedig gydsynio i gais fynd yn ei flaen yn gymwys—

(a)     os yw’r person mabwysiedig wedi marw; neu

(b)     os yw’r asiantaeth gyfryngol yn penderfynu na all y person mabwysiedig roi cydsyniad deallus.

(7) Pan fo’n ofynnol cael cydsyniad y person mabwysiedig o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r asiantaeth gyfryngol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gan y person mabwysiedig ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad deallus.”

8. Yn rheoliad 8 (feto gan berson mabwysiedig)—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1) Mae feto yn gymwys mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn neu o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol—

(a) os naill ai’r person mabwysiedig neu berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig yw’r gwrthrych; a

(b) os yw’r person mabwysiedig wedi hysbysu’r asiantaeth fabwysiadu briodol yn ysgrifenedig—

(i) nad yw’n dymuno i asiantaeth gyfryngol gysylltu ag ef mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn; neu

(ii) nad yw’n dymuno i gyswllt gael ei wneud ag ef ond o dan amgylchiadau penodedig neu gan bersonau penodedig.”; 

(b)     hepgorer paragraff (3); ac

(c)     ar y diwedd mewnosoder—

“(4) Bernir bod feto sy’n gymwys yn rhinwedd hysbysiad a roddwyd cyn 10 Tachwedd 2015 yn gymwys i unrhyw gais a wnaed gan berthynas i’r person mabwysiedig o dan y Rheoliadau hyn.”  

9. Yn lle rheoliad 9 (darparu gwybodaeth gefndir pan fo cydsyniad yn cael ei wrthod etc.) rhodder—

9. Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal yr asiantaeth gyfryngol rhag datgelu i’r ceisydd unrhyw wybodaeth am y gwrthrych nad yw’n wybodaeth adnabod ac y mae’r asiantaeth o’r farn ei bod yn briodol ei datgelu.”

10. Yn rheoliad 10 (cwnsela)—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1) Rhaid i asiantaeth gyfryngol ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am argaeledd cwnsela i unrhyw berson—

(a) sy’n gwneud cais iddi o dan y Rheoliadau hyn;

(b) sy’n wrthrych cais o’r fath ac sy’n ystyried a ddylai gydsynio i wybodaeth gael ei datgelu amdano’i hun i’r ceisydd; neu

(c) sy’n berson mabwysiedig sy’n ystyried a ddylai gydsynio i gais fynd yn ei flaen.”;

(b)     yn lle paragraff (4)(c) rhodder—

“(c) os yw’r person yng Ngogledd Iwerddon, sefydliad gwirfoddol priodol o fewn ystyr “appropriate voluntary organisation” yn Erthygl 2(2) o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987([5]) neu’r Bwrdd Rhanbarthol neu unrhyw Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol; neu”; ac

(c)     yn lle paragraff (5) rhodder—

“(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “Bwrdd Rhanbarthol” (“Regional Board”) yw’r Bwrdd Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009([6]) ac ystyr “Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol” (“Health and Social Care Trust”) yw Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 10 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991([7]).” 

11. Yn rheoliad 11 (y weithdrefn pan geir cais)—

(a)     hepgorer “ac” ar ddiwedd paragraff (b);

(b)     ar ddiwedd paragraff (c) yn lle “.” rhodder “; ac”;

(c)     ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

“(ch) yn achos cais gan berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig, bod gan y ceisydd berthynas ragnodedig â’r person hwnnw.”

12. Yn rheoliad 12 (cysylltu â’r asiantaeth fabwysiadu briodol)—

(a)     yn lle paragraff (2) rhodder—

“(2) Mae’r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cynnwys—

(a) gofyn yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth o dan reoliad 13 a all fod yn berthnasol at y diben hwn;

(b) gofyn yn ysgrifenedig i’r llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu am wybodaeth am hunaniaeth yr asiantaeth fabwysiadu briodol;

(c) holi’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y digwyddodd y mabwysiad.”;

(b)     ym mharagraff (3) ar ôl “rhaid i’r asiantaeth gyfryngol” mewnosoder “gymryd pob cam rhesymol i”;

(c)     yn lle paragraff (4)(a) rhodder—

“(a) cael gwybod a yw’r person mabwysiedig, ar unrhyw adeg, wedi mynegi barn i’r asiantaeth ynghylch—

                           (i)    unrhyw gyswllt yn y dyfodol ag unrhyw berthynas;

                         (ii)    unrhyw gyswllt yn y dyfodol rhwng pobl sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig a pherthnasau i’r person mabwysiedig;

                       (iii)    codi pwnc cyswllt o’r fath gydag ef; a”; 

(d)     yn lle paragraff (4)(c) rhodder—

“(c) ceisio unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol at ddibenion—

                           (i)    olrhain y person mabwysiedig ac, os nad y person mabwysiedig yw’r gwrthrych, unrhyw wrthrych arall;

                         (ii)    galluogi’r person mabwysiedig i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio— 

(aa)        i wybodaeth adnabod amdano’i hun gael ei datgelu;

(bb)       i gais fynd yn ei flaen i hwyluso cyswllt rhwng perthynas i’r person mabwysiedig a pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig; neu

(cc)        i gyswllt â’r ceisydd;

                       (iii)    galluogi unrhyw wrthrych arall i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio—

(aa) i wybodaeth adnabod amdano’i hun gael ei datgelu; neu

(bb) i gyswllt â’r ceisydd;

                        (iv)    cwnsela’r gwrthrych ac, os nad ef yw’r gwrthrych, y person mabwysiedig mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw; a

                          (v)    cwnsela’r ceisydd.”;

(e)     ym mharagraff (5) ar ôl “chais oddi wrth asiantaeth gyfryngol o dan baragraff (4)” mewnosoder “neu o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol”;

(f)      ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

“(6) Mae “asiantaeth gyfryngol” at ddibenion paragraff (5) yn cynnwys asiantaeth gyfryngol fel y diffinnir “intermediary agency” o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol.”

13. Yn rheoliad 13 (cael gwybodaeth oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol)—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1) Caiff asiantaeth gyfryngol wneud cais yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am ba wybodaeth bynnag o blith y canlynol a all ei chynorthwyo at ddibenion bwrw ymlaen â chais o dan y Rheoliadau hyn—

(a) hunaniaeth yr asiantaeth fabwysiadu briodol;

(b) manylion y llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu;

(c) gwybodaeth a all fod gan y Cofrestrydd Cyffredinol a fyddai’n galluogi cais i gael ei wneud am dystysgrif o’r Gofrestr Plant Mabwysiedig;

(d) gwybodaeth o’r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu.”;

(b)     yn lle paragraff (2) rhodder—

“(2) Os oes asiantaeth gyfryngol yn bwrw ymlaen â chais o dan reoliad 5(1)(c), caiff hefyd wneud cais yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth y gallai fod gan y Cofrestrydd Cyffredinol a fyddai’n galluogi’r person mabwysiedig y mae gan y ceisydd berthynas ragnodedig ag ef i gael copi ardystiedig o’r cofnod o’i enedigaeth.”

14. Yn rheoliad 14 (y Cofrestrydd Cyffredinol i gydymffurfio â’r cais)—

(a)     ym mharagraff (1) hepgorer “12 neu”;

(b)     hepgorer paragraff (2). 

15. Yn rheoliad 16 (datgeliadau awdurdodedig)—

(a)     ym mharagraff (a) hepgorer “12 neu”;

(b)     hepgorer “ac” ar ddiwedd paragraff (c);

(c)     ym mharagraff (ch) yn lle “.” rhodder “; a”;

(d)     ar ôl paragraff (ch) mewnosoder—

“(d) i’r person mabwysiedig i’w alluogi i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio i gais o dan y Rheoliadau hyn fynd yn ei flaen.”

16. Yn rheoliad 18 (ffioedd) yn lle paragraff (3) rhodder—

“(3) Caiff y Cofrestrydd Cyffredinol godi’r ffioedd a ganlyn ar asiantaeth gyfryngol mewn cysylltiad â cheisiadau am wybodaeth o dan reoliad 13 neu 14—

(a)     £36 am brosesu cais cychwynnol am wybodaeth (p’un a ddarperir gwybodaeth ai peidio);

(b)     £14 am ddarparu gwybodaeth mewn ymateb i unrhyw gais dilynol a wneir mewn perthynas â’r un ceisydd.”

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

16 Hydref 2015



([1])   2002 p. 38. Mewnosododd adran 1 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 is-adran (1A) yn adran 98 o Ddeddf 2002 fel y gall rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru wneud darpariaeth i hwyluso cyswllt rhwng personau sydd â pherthynas ragnodedig â pherson a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 a pherthnasau geni’r person mabwysiedig.

([2])   Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan Ddeddf 2002 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). 

([3])   Mae adran 98(6) o Ddeddf 2002 yn darparu bod cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn ofynnol ar gyfer darpariaeth a wneir mewn rheoliadau sy’n awdurdodi’r Cofrestrydd Cyffredinol i ddatgelu gwybodaeth neu i godi ffioedd rhagnodedig. Trosglwyddwyd swyddogaeth cymeradwyo Canghellor y Trysorlys o dan adran 98(6) o Ddeddf 2002 i’r Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd O.S. 2008/678. 

 

([4])   O.S. 2005/2701 (Cy. 190) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/3293 (Cy. 253). 

([5])   O.S. 1987/2203 (G.I. 22).

([6])   2009 p. 1.

([7])   O.S. 1991/194 (G.I. 1).